Mae Canolfan Adnoddau Plas Pentwyn yn ganolbwynt cymunedol a leolir ond 3.5 milltir o ganol dinas Wrecsam. 

Mae ystod o weithgareddau yn cael eu cynnal yn y ganolfan, gan gynnwys clybiau a digwyddiadau hyfforddiant.  Mae yna hefyd ardd gymunedol.  

Mae’r adeilad cyfan yn cynnwys mynediad i gadair olwyn. Rydym yn cynnig Wi-Fi am ddim drwy'r adeilad cyfan ac offer TGCh i’w ddefnyddio ar gyfer cyfarfodydd.

Mae yna faes parcio am ddim ar gael yn y ganolfan a gellir cyrraedd yno ar gludiant cyhoeddus hefyd.  

Mae’r ganolfan hefyd yn cynnwys llyfrgell Coedpoeth (gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ac oriau agor ar dudalen gwefan ‘eich llyfrgell leol’).

Llogi ystafell allan

Dylech wirio amodau llogi cyn gwneud archeb. I wneud archeb, anfonwch e-bost at plaspentwyn@wrexham.gov.uk i wirio argaeledd a gofyn am ffurflen archeb. 

Blaendaliadau

Mae blaen-dal na chaiff ei ad-dalu o 25% o’r ffi llogi yn ofynnol adeg llogi (nid yw hyn yn berthnasol i archebion bloc rheolaidd).

Gostyngiadau / ffioedd gostyngol (archebion mewnol ac elusen)

Rydym yn cynnig:

  • Gostyngiad o hyd at 25% ar gyfer archebion mewnol. 
  • Gostyngiad tâl llogi ystafell o 25% ar gyfer digwyddiadau / sefydliadau elusennol ar gyfer codi arian lleol.  
     

Taliadau cyffredinol

Taliadau cyffredinol
CyfleusterauFfi
Defnydd o gerddoriaeth fyw neu wedi’i recordio ym mhob ystafell (fesul sesiwn)£2.50
Defnydd o lwyfan symudol ym mhob ystafell (ble mae ar gael) £25
Ffi ychwanegol am fethu gadael ar amser a gytunwyd i bob ystafell (fesul pob awr neu ran ohoni)£62

Amseroedd sesiwn llogi 

Gellir llogi ar gyfer sesiynau bore, prynhawn neu fin nos (mae archebion sesiwn ar gyfer 3 awr o hyd, gyda sesiynau min nos yn gorffen erbyn 10pm fan bellaf).

Manylion ystafell a ffioedd 

Mae amryw o ystafelloedd y gellir eu llogi, gyda maint yr ystafell yn amrywio o 12 unigolyn fesul ystafell i 100 o bobl fesul ystafell. Mae’r union le yn dibynnu ar y math o weithgaredd yr ydych yn bwriadu ei gynnal a’r gwaith gosod rydych ei angen ar gyfer y byrddau a’r cadeiriau.  

Gallwn ddarparu lluniaeth am gost o £1 y pen.  

Smelt - Ystafell TG - ar gyfer hyd at 30 o bobl

Cost fesul sesiwn 3 awr £44 

Gyda 10 o liniaduron at ddefnydd y cyhoedd, mynediad am ddim i'r rhyngrwyd, meddalwedd Office a chyflwyno.

Talwrn - Ystafell gyfarfod - ar gyfer hyd at 15 o bobl

Cost fesul sesiwn 3 awr £27.50

Mae offer TG hybrid ar gael yn yr ystafell, gan gynnwys sgrîn ar wal wedi’i chysylltu gyda gliniaduron.

Adwy - Neuadd - ar gyfer hyd at 100 o bobl

Cost fesul sesiwn 3 awr £62

Neuadd fawr, fodern, arddull theatr gyda seddi.  Mae offer TG hybrid ar gael yn yr ystafell, gan gynnwys sgrîn i gysylltu gyda gliniaduron.

Talu am archebu ystafell 

Unwaith y bydd eich archeb wedi’i gadarnhau, gallwch dalu amdano ar-lein. 

Talwch rŵan 

Caffi  

Mae gennym gaffi ardderchog ar y safle, gyda man eistedd mawr, i’w rannu gyda phawb sy’n defnyddio’r adeilad ar unrhyw adeg. Mae bwyd a diod ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 3pm. 

Ar gyfer archebion (cyngor) mewnol mae’r caffi hefyd wedi’i gynnwys ar P2P sy’n ei wneud yn haws i drefnu arlwyo ar gyfer eich cyfarfod neu ddigwyddiad.  

Cyfeiriad

Heol-y-Castell, 
Coedpoeth,
Wrecsam,
LL11 3NA

Cysylltwch â Chanolfan Adnoddau Plas Pentwyn

E-bost: plaspentwyn@wrexham.gov.uk  
Ffôn: 01978 722980