Mae Canolfan Adnoddau Cymunedol Acton yn ganolfan brysur, llwyddiannus, bywiog, gydag adnoddau da. Gyda llawer o sesiynau gweithgareddau i bob oedran mewn cerddoriaeth, chwaraeon, ffitrwydd, addysg, adloniant, hamdden, y celfyddydau, hyfforddiant, a digwyddiadau - mae rhywbeth i bawb.
Mae’r Ganolfan, sydd wedi ei gweddnewid a’i hymestyn yn ddiweddar gan ddefnyddio buddsoddiad o dros £800,000 gan Gyngor Wrecsam a Chyngor Cymuned Acton, wedi ei lleoli ar safle’r ganolfan gymuned flaenorol ar Ffordd Owrtyn.
Mae'r Cyfleuster cael ei redeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac mae pwyllgor rheoli gwirfoddol sy'n gweithio i ddatblygu digwyddiadau a gweithgareddau ymhellach. Os oes gennych rywfaint o amser rhydd ac yn meddwl am adeiladu ar eich sgiliau a rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned, dewch i gymryd rhan. Mae'r pwyllgor yn cyfarfod bob chwarter yn y ganolfan.
Cyfleusterau sydd ar gael
Mae cynllun amlbwrpas yr adeilad wedi ei anelu at ddiwallu anghenion amrywiol y gymuned ac i wneud y gorau o’r gofod presennol er budd grwpiau a sefydliadau presennol a newydd.
Mae gan yr adeilad amryw o ystafelloedd y gallwch chi eu llogi, gyda maint yr ystafell yn dibynnu ar y gweithgaredd, o ystafell i 4 person i ystafell efo lle i 180 o bobl. Mae ein hystafelloedd yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ac mae dolen glyw ar gael yn rhad ac am ddim ar gais. Rydym hefyd yn cynnig WiFi am ddim drwy'r adeilad, mae gennym ystod o gyfarpar TGCh i'w ddefnyddio i gynnal cyfarfodydd, cynnal cyflwyniadau a digwyddiadau neu bartïon. Mae cadeiriau (y gellir eu stacio) a byrddau plygu.
Cysylltwch â'r ganolfan ar 01978 359795 neu ActonCommunityResource@wrexham.gov.uk am ragor o wybodaeth.