Cadwyn y Maer

Prynwyd y gadwyn gan NS Scotcher o Firmingham yn 1872, am gost o £193. Fe'i gwisgwyd am y tro cyntaf yng ngwledd y Maer yn 1873. 

Mae'r gadwyn wedi'i gwneud o bedwar ar hugain o ddolenni aur 18 carat gwag, ac mae enwau Meiri Wrecsam a'r flwyddyn yr oeddent yn eu swyddi wedi'u hysgythru ar bob un. 

Mae tlws siâp calon aur 18 carat yn crogi oddi ar y gadwyn sydd â tharian enamel gydag arfbais Bwrdeistref Wrecsam a'r arwyddair ‘Fear God, Honour the King’.

Image
""

Cadwyn y Faeres

Prynwyd hon yn 1902, ac fe'i gwnaethpwyd gan emydd o Wrecsam, AW Butt. Mae'r gadwyn aur 15 carat yn bedair modfedd ar hugain o hyd, ac yn cynnwys rhosynnau Tuduraidd enamlog a phlu Tywysog Cymru ar arfbeisiau enamlog  gyda llewod a bugeilffyn.

Mae’r ddolen ganolog yn dangos Seiffr Brenhinol ‘ER VIII’ a llun bach o’r Frenhines Alexandra o fewn cylch o ddiemwntau. Uwchben y darian, mae arflun y Fwrdeistref yn darllen ‘Fear God, honour the King’.

Image
""

Cadwyn y Dirprwy Faer

Yn wreiddiol, hon oedd cadwyn swydd Cadeirydd CDGW (Cyngor Dosbarth Gwledig Wrecsam). Gwnaethpwyd y golaréd arian goreurog oddeutu 1950, ar ffurf un ar ddeg ar hugain o blaciau sydd fel grisiau petryal, ac mae enwau a dyddiadau Cadeiryddion CDGW wedi'u hysgythru arnynt. 

Image
""

Tlws Crog y Dirprwy Faeres

Tlws crog modern wedi'i ddilysnodi a'i wneud o arian goreurog yn cynnwys arfbais CBWM. Gwnaethpwyd hwn yn 1983 gan Thomas Fattorini o Firmingham i gymryd lle'r tlws crog blaenorol a aeth ar goll.

Cyflwynwyd yr un gwreiddiol i CBWM gan gangen Wrecsam o NALGO (Cymdeithas Genedlaethol Swyddogion Llywodraeth Leol) yn 1976.

Image
""

Y Byrllysg

Yn 1866, cyflwynwyd byrllysg arian mawr i Gyngor Bwrdeistref Wrecsam gan Joseph Clark, y Maer ar y pryd. Gwelwyd hwn fel symbol o awdurdod y Cyngor, ac mae'n mesur 5 troedfedd 8 modfedd. 

Mae ganddo ffon eboni â phen arian sydd wedi'i ysgythru â dail, cennin, mygydau geifr, arfbais Bwrdeistref Wrecsam a thelyn Gymreig. Coronir hwn gan ddraig sy'n gafael mewn tarian. Mae'r addurniadau ar ganol ac ar waelod y ffon hefyd yn cynnwys cennin a mygydau geifr.

Ers 1866, mae'r byrllysg wedi cael ei gario o flaen y Maer ym mhob digwyddiad dinesig. 

Image
""